EGLWYS SAN MIHANGEL ABERGELE
CANLLAW
I GERRIG BEDDAU CYNNAR
ODDEUTU 1667 – 1894
Ysgrifennwyd gan Len Ellis (Warden yr Eglwys) Mehefin 2016
Gyda diolch a chydnabyddiaeth i Delyth MacRae am ei gwybodaeth lleol ac am y defnydd o’i archif personol o waith yesgrifenedig y diweddar R Fred Roberts, hefyd i Margaret Macaulay am ei mewnbwn hanesyddol, Mark Baker (Ymddiriedolaeth Gwarchod Castell Gwrych) am wybodaeth ynglyn â chladdgell Bamford Hesketh, David Roberts am ei gymorth gyda chyhoeddi a Sioned Green am y cyfiethiad
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
​
Cyflwyniad
​
Roedd claddedigaethau cynharach y tu mewn i'r eglwys, ond dechreuodd y llawr o garreg (gan gynnwys rhai gyda chofebion yn nodi safleoedd claddu gwreiddiol) ymsuddo a rhoddwyd a wyneb newydd arno yn ystod yr adfer a ddechreuodd yn 1878 (J R Ellis "History of Abergele"). Fe ail leolwyd rhai cofebau, ac o'r rhai hynaf, gyda dyddiad ddarllenadwy, mae cofeb Gwen Lloyd (1668) sy'n un o’r clwstwr ar y wal ddeheuol ger y pulpud. Cafwyd hyd i gofeb i Henry Pugh o dan y pulpud pan gafodd ei symud o'r eil ddeheuol ac mae yn awr wedi ei gosod ar y wal Ogleddol ger y piano. Er syndod, nid oes unrhyw gofebion sy'n dyddio cyn adferiad Siarl II yn 1660 (ac eithrio o bosibl y rhai heb unrhyw ddyddiad darllenadwy a mân-ddarnau o slabiau beddrodol ar wal y Ddeheol a fyddai wedi bod yn y fynwent yn wreiddiol). Mae hyn yn cefnogi'r syniad bod milwyr Cromwel wedi eu lletya yn yr eglwys. Gydag un eithriad , mae pob un o'r slabiau beddrodol wedi eu dyddio rhwng 1300-1350 a’r groes flodeuog wedi ei dyddio o 1380-1400. Mae eu cyflwr torredig yn cefnogi'r syniad fod Abergele yn y dyddiau hynny yn fwy o dref ffinol, na'r dref farchnad dawel rydym yn tueddu i’w dychmygu.
​
(1) Cerrig Beddau Cynharaf
Ym 1960 cafwyd ymgyrch o ddifri i dacluso’r fynwent ym mlaen yr eglwys ac i’r Gorllewin. (Gwnaethpwyd lluniau doniol o’r gweithwyr yn ystod y cyfnod hwn gan Mr Cawthorpe a gellir eu gweld yn yr eglwys). Yn anffodus claddwyd rhai o’r hen gerrig beddau, a ddefnyddiwyd rhai mewn waliau ac fel llwybrau troed. Gosodwyd rhai i sefyll yn syth yn erbyn y wal mwyaf ddeheuol ychydig i'r chwith a gyferbyn â'r prif ddrws. Y rhai mwyaf nodedig yw: -
1a, William Roberts 1667 (y garreg fedd hynaf a geir yn y fynwent)
1b, Jane uch Thomas (gwraig John Roberts) 16eg o Fawrth, 1692
(gellir defnyddio uch/ap yn yr iaith Gymraeg i ddynodi merch / mab)
1c, Hugh Hughes Awst y 13eg, 1719
1d, Elizabeth Jones 7fed o Awst, 1720 a'i gŵr
Thomas Jones 17 Ionawr, 1742 (Ficer Abergele 1716-1742)
1e, Hugh Merlun 1733 a Jane Merlun 1744
1f, Jane Jones 19eg o Chwefror 1750
1g, John Humphry Tachwedd y 30ain, 1762
Gosodwyd rhai cerrig beddau yn ogystal ar y wal berimedr Orllewinol ac yn eu mysg yr oedd carreg fedd John Pierce gyda arwyddlun Seiri Rhyddion. Ymddengys ei fod yn Arch-Saer Brenhinol o arwyddocâd mawr i mudiad y Seiri Rhyddion. Oherwydd ei bwysigrwydd hanesyddol mae’r garreg fedd ar fenthyg parhaol i Sefydliad Gogledd Cymru y Seiri Rhyddion ac yn cael ei harddangos yn Neuadd y Seiri Rhyddion (Llandudno) Cyf. Mae llun o'r garreg wedi ei arddangos gydag arddangosfa lluniau y gladdgell.
(2) David Maurice (hefyd wedi'i gofnodi fel Dafydd Morris neu Dafydd ap Morus) – a gladdwyd ym 1702
Mab Andrew Morris, Deon Llanelwy. Pan fu farw roedd yn Ficer Abergele & Betws yn Rhos (1684-1702). Dengys cofnodion ei fod yn dwyn tarian Owen Gwynedd / Owain Glyndwr ond yn ôl D R Thomas (Llanelwy) roedd yn dwyn tarian Cunedda Wledig.
Yr oedd yn gyfieithydd uchel ei barch ac ysgrifennodd erthyglau yn ymwneud â'r Plot Pabaidd a phregeth yn cefnogi Gristnogion gwan. Mae traddodiad yn cofnodi ei fod wedi dewis ardal ei orffwysfa terfynol fel y gallai godi o flaen ei braidd ar alwad utgorn y dyfarniad. Gan iddo ddwyn y darian mae ei garreg fedd yn dwyn arfbais Owain Gwynedd ac arysgrif moliant yn y Lladin, sy'n gyfieithu:
"Yma y gorwedd David Maurice, DD a ffurfiodd o fater uwchraddol, llafuriodd yn fwy na’r hyn sy'n arferol ym mherfformiad mewn swyddfeydd eglwysig. Wedi cael ei ddyrchafu i brebend y Faenol, yn Eglwys Llanelwy ac i reithoraeth Llansannan, treuliodd fywyd haeddiannol hapus yn cyfarwyddo ieuenctid. Yn yr eglwys treuliodd ei flynyddoedd aeddfed yn pregethu’n llafurus. Ond gan iddo godi ei feddwl tua’r nefoedd yn aml o fewn ei muriau, cymerodd ofal, wedi iddo ei ddyrchafu yn drylwyr, na ddylai'r rhan a osododd i lawr yn ystod y 76eg flwyddyn o’r oes hon 1702 OC gael man gorffwys israddol '.
(3) Claddgell Bamford Hesketh
Darganfuwyd y gladdgell yn ystod gwaith cynnal a chadw yn 2004 ac roedd yn destun Cloddio gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Clwyd-Powys. Gwnaethpwyd y ddau gam cyntaf ym mis Medi 2005 ac Ebrill 2006 gyda ymchwiliadau pellach yn 2009, yn dilyn i adroddiad cael ei gwblhau y flwyddyn honno. Mae lluniau o du mewn y gladdgell a chopi o'r Adroddiad Archeolegol yn cael eu harddangos yn yr eglwys. Bu i’r Arolwg hefyd arolygu drysau cauedig y "Dwyrain" a’r “Gorllewin” sydd i’w canfod ar y wal ddeheuol a cherrig beddau a blotiwyd ar y fynwent Ogleddol uchaf.
Hyd yr amser yma nid oedd cofnod hysbys o darddiad y gladdgell wedi ei ddarganfod ond am nodyn yng nghofnodion y Cyngor Eglwys Plwyfol ym 1933 : Dywedodd rhywun fod claddgell agored wedi ei adeiladu gan y “Castell” flynyddoedd yn ôl yn y fynwent ar gyfer pobl y “Castell”. Bu i ymchwil gan Mark Baker, a oedd yn catalogio papurau Gwrych, ddod o hyd i frasluniau o gladdgell a wnaed gan Lloyd Hesketh Bamford yn 1829 yn amlinellu chwech o eirch oedolion ac un arch plentyn - yr arch olaf i gael ei chladdu oedd arch Major Bamford-Hesketh yn 1828. Dengys braslun arall gan Lloyd yn 1840 / 50au cynnar gynllun llawr a chroesdoriad o'r gladdgell fel y mae heddiw. A oes dau ddaeargell neu a gafodd yr eirch eu symud yn ystod y 19eg ganrif pan symudodd teulu Gwrych i addoli yn Llanddulas?
O arteffactau a ddarganfuwyd yn ystod y cloddio, y math o adeiladwaith a diddordeb Lloyd Bamford - Hesketh , daeth awdur yr adroddiad Archeolegol i'r casgliad fod y gladdgell wedi ei adeiladu gan unai Lloyd cyn iddo farw yn 1861 neu gan ei dad ar droad y 19eg ganrif.
Casgliad arall a dynnwyd oedd bod y gladdgell wedi cael ei gwagio a hailselio cyn marwolaeth Lloyd yn 1861. Roedd clai ac ôl-lenwad a ddefnyddiwyd i selio drws y gladdgell yn cynnwys darnau o serameg llestr-perlog, gwyrdd a gysylltir fel arfer â chyfnod byr o gwmpas dechrau'r 19eg ganrif.
Mae'n bosibl y byddai'r dyddiad ar gyfer yr ail selio wedi bod ar ôl marwolaeth Lloyd ac yn agosach at 1868 pan adawodd y teulu Eglwys San Mihangel i Landdulas oherwydd eu gwrthwynebiad i'r newidiadau . Roedden nhw wedi bod yn datblygu yr hyn a elwir bellach yn Capel Elfod fel capel coffa teulu .
(4) Hugh Jones, Amlwch – A gladdwyd ar yr 8fed o Ionawr 1857
Hugh Jones oedd Capten yr 'Ann Bach' cwch cargo fechan a chwythwyd i’r lan ger Abergele yn ystod storm treisgar ym mis Ionawr 1857. Mae carreg fechan ar y wal ger Cofeb Trychineb y Rheilffordd.
​
(5) Y Llongfeistr Benjamin Townsend – a fu farw Rhagfyr yr 2il, 1867
Capten llong hwylio Americanaidd y 'Guardian Angel'a adawodd Lerpwl i hwylio i Efrog Newydd. Fodd bynnag, unwaith yr oedd yn glir o geg y Merswy fe'i cafodd ei hun yn cael ei thynnu yn gyflym tuag at arfordir Cymru mewn storm treisgar. Er gwaethaf holl ymdrechion y criw fe drawodd y traeth ac oherwydd y storm ni lwyddodd y bad achub a alwyd yn ei hymdrechion i gyrraedd y môr agored. Achubwyd chwech o'i chriw o bedwar ar ddeg a golchwyd 3 corff i'r lan yn ddiweddarach yn Abergele. Claddwyd 2 mewn beddau di-enw yn y fynwent. Mae carreg fedd y Capten Benjamin C Townsend o Providence, Rhode Island, Unol Daleithiau America wedi’i cherfio’n gywrain, ac mae copi ohoni hefyd wedi ei lleoli yn Rhode Island.
(6) Meirw yr Ocean Monarch – Claddwyd ar y 13eg a’r 15fed o Fedi 1848
Ar y 24ain o Awst 1848 bu i Long a enwyd yr "Ocean Monarch" o Boston, llong ymfudol Americannaidd, gyda 396 o deithwyr a chriw ar y bwrdd, fynd ar dân yn fuan ar ôl gadael ceg y Merswy ac ychydig filltiroedd i'r gogledd o Fae Cinmel. Ymledodd y tân yn gyflym ac yna suddodd y llong. Bu i longau yn yr ardal lwyddo i achub 218 o oroeswyr ond bu farw 178 o fobl . Mae cofnodion Eglwys yn dangos fod naw corff anhysbys wedi eu golchi i'r lan ar hyd yr arfordir ac iddynt gael eu claddu mewn bedd di-enw yn y fynwent hon. Credir mae’r bedd yw y twmpath sydd ychydig heibio i'r gladdgell ac i'r chwith o Gofeb Trychineb y Rheilffordd. Godwyd cofeb yn y fan ym Mehefin 2016
(7) Cofeb Trychineb Rheilffordd Abergele 1868
Ar yr 20fed o Awst 1868 roedd trên yr “Irish Mail” yn teithio o Lundain i Gaergybi a cafodd wrthdrawiad â 6 o dryciau rhydd a di-reolaeth yn cario 50 o gasgenni o baraffin rhwng Abergele a Llanddulas. Cafod y 3 cerbyd cyntaf eu gwasgu a’u llyncu gan y fflamau, a bu i’r tân a ddilynodd ychwanegu at y nifer a fu farw o ganlyniad i’r gwrthdrawiad.
Claddwyd 33 o gyrff mewn bedd torfol yn Abergele. Mae Cofeb Trychineb y Rheilffordd yn nodi enwau pob un a fu farw, yn Gofeb Rhestredig Gradd 2 a adnewyddwyd yn 2009.
Ymhlith y rhai fu farw roedd y Parchedig Syr Nicholas a'r Foneddiges Chinnery ac mae ffenestr y Dioddefaint, y Croeshoeliad a'r Atgyfodiad yn gofeb iddynt hwy.
(8) Y Parchedig William Roberts – Claddwyd 1886
Brodor o Gaernarfon a ddaeth yn ysgolfeistr yn Nhowyn, Abergele a Gweinidog cyntaf Mynydd Seion, Capel Bresbyteraidd lleol Abergele ym 1860 ac a arhosodd yn ei swydd hyd ei ymddeoliad yn 1880.
Yr oedd yn nodedig am ei dduwioldeb a’i weithredoedd da a daeth o dan ddylanwad y Diwygwyr, Sankey a Moody. Yr oedd yn gyfaill mawr i Emrys ap Iwan ac fe’i gyflwynodd i ddirgelion Lladin a Groeg.
a'r Parch Robert Darbyshire Roberts - Claddwyd 1946
Mab cyntaf y Parchedig William Roberts (uchod) a fu’n gwasanaethu fel cenhadwr yn Ne Affrica ac Awstralia.
(9) David Griffiths - Clwydfardd - Claddwyd Awst 1894
Gweinidog Westleyaid, a fu, trwy ddylanwad Iolo Morgannwg, yn allweddol wrth sefydlu Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru ac a ddaeth yn Archdderwydd Cyntaf. Fe'i ganed yn Ninbych yn 1800 ac yr oedd yn ddisgynnydd ar ochr ei fam o deulu nodedig o Abergele. Gadawodd yr ysgol yn 11 i weithio ym musnes oriawr a chloc ei dad. Roedd ei rieni yn Wesleyaid brwd ond ni chafodd ef ei droedigaeth nes ei fod yn 25. Daeth yn bregethwr ac fe ymgymerodd â phob agwedd o Gristnogaeth, gan gynnwys Anghydffurfiaeth. Byddai'n cerdded 30 milltir a mwy ar y Sul i bregethu mewn tri lle. Yn fardd brwd, fe gerddodd yn 1834 i Eisteddfod Caerdydd, lle cyfarfu â Thaliesin, mab Iolo Morganwg, a heuwyd hedyn ynglyn â’r syniad o ddefodau derwyddol cyn-hanesyddol.
Dilynodd fywyd crwydrol gan fyw yng Nghaernarfon, Caergybi ac Amlwch a dychwelyd i Ddinbych yn 1856. Bu'n arwain a datblygodd Eisteddfodau gan ddiwallu dyletswyddau yn unol â dyletswyddau Archdderwydd presennol. Bu iddo ymroi ei fywyd i warchod a chyfoethogi sefydliadau yr Orsedd a'r Eisteddfodau.
Tua’r 1880au daeth Clwydfardd a'i wraig i fyw yn “London House” yn Abergele gyda'u merch a’u mab yng nghyfraith. Cafodd yr adeilad ei dymchwel ym 1924 i wneud lle ar gyfer Banc y National Westminster. (Mae plac yn coffáu ei fod wedi preswylio yno wedi ei osod y tu mewn i'r drws). Bu iddo gynnal a gofalu am gloc Eglwys San Mihangel am bron i ugain mlynedd. Ym 1880, ailgodwyd yr Eisteddfod Genedlaethol a daeth yn gadeirydd cyntaf y gymdeithas llywodraethu. Yn Eisteddfod Wrecsam 1887 fe’i cadarnhawyd fel yr Archdderwydd. Yn 1889 cyhoeddodd y fersiwn mydryddol o'r salmau a’u cyflwyno i Ficer Abergele, y Parch David Evans (1876-1897) - nad oedd yn gweld llygad yn lygad â Bamford Hesketh. Sylweddolodd beirdd eraill fod Clwydfardd wedi gwneud gwaith aruthrol dros yr Eisteddfod a bu iddynt gasglu 200 gini mewn gwerthfawrogiad iddo.
Fel Archdderwydd ym 1894 fe dderbyniodd Tywysog Cymru a’r Dywysoges Alexandra i Orsedd Cymru. Cafodd ei daro'n wael yn Ninbych ym mis Awst 1894 a bu farw ym mis Hydref yn 93 oed. Disgrifiwyd yr angladd fel yr un mwyaf a welwyd erioed yn Abergele.
Ysgrifennodd ei or-ŵyr, David Griffith, lyfr am Clwydfardd "Right Man, at the Right Time" (lluniwyd y nodiadau o erthygl mwy cynhwysfawr yn yr “Abergele Field Club and Historical Society Review No 13” (1994).
10) Griffith Ellis – Claddwyd ar y 30ain o Fai, 1880.
Prydleisai Ymgymeradwyaeth Nwy Abergele a dywedir iddo fod yn gyfrifol am ddod â'r cyflenwad nwy i Abergele yn 1850. Cyflwynwyd 2 olau stryd nwy yn y dref, ac yn 1869 cyflwynwyd nwy i'r Eglwys fel y gellid dechrau cynnal gwasanaethau gyda'r nos.
(11) James Meredith - Claddwyd 1884
Ficer Abergele 1846-1876. Ef oedd y Ficer cyntaf i fyw yn y Ficerdy yng Ngroes Lwyd ar y 26ain o Ebrill 1850. Ar 25ain o mis Awst 1868 bu iddo lywyddu yng nghladdedigaeth y 33 corff a fu farw yn Namwain y Rheilffordd.
(12) John Richard Ellis – Claddwyd ym Mehefin 1949 (Ar adeg argraffu, nid yw union leoliad y bedd yn hysbys ond credir ei fod yn llain hon a'r ardal)
Cafodd John Richard Ellis eni yn Abergele yn 1865. Yr oedd yn ddiacon yng Nghapel y Wesleaid St Paul o 1906, Trysorydd Capel am dros 40 o flynyddoedd a bu iddo wasanaethu fel aelod o Gyngor Plwyf Abergele, Cyngor Dosbarth Trefol Abergele a Phwyllgor Addysg Sir Ddinbych. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas y Cymmrodorion yn Abergele, yn aelod oes o Glwb Dirwestol Y Ship a Chadeirydd Elusennau Cyfunol Abergele. Yn 1948 ysgrifennodd lyfr o'r enw “A History of Abergele and District “. Yr oedd yn ynad ers sawl blwyddyn a bu farw ar y 18fed o Fehefin 1949.
13) John Bushel- Claddwyd Awst 9fed 1877
Milfeddyg
(14) Y Parchedig Thomas Lloyd - Claddwyd 15fed o Orffennaf 1858 ( Bedd yn agos at ac yn wynebu'r goeden)
Thomas Lloyd (Gweinidog Methodistiaid Calfinaidd) yn enedigol o Gyffylliog a agorodd yr Ysgol cyntaf yn Llansansior , Abergele o dan nawdd y Parch Edward Hughes o Ginmel yn 1794. Profodd yr ysgol i fod yn fyr-hoedlog fel y dechreuodd Thomas Lloyd fynychu cyfarfodydd y gymdeithas Methodistiaid a dechreuodd bregethu yn 1799. Nid oedd hyn yn dderbyniol i'r Sgweiar Anglicanaidd a bu i Thomas Lloyd gael ei ddiswyddo heb oedi. Yna agorodd Ysgol yng Nghapel Mynydd Seion oedd yn gweithredu gyda llwyddiant mawr ac a fynychwyd gan Henry Rees, Llansannan. Yn ychwanegol at ei ddyletswyddau ysgolheigaidd ef oedd gweinidog answyddogol yr Eglwys Galfinaidd ifanc yn Abergele am bron i hanner can mlynedd ac urddwyd ef yn 1819.
(15) Carreg Bedd gŵr a drigodd 3 milltir i'r Gogledd
Mae cofeb mwyaf nodedig y fynwent wedi ei leoli yng nghornel y wal yn y fynedfa i'r fynwent newydd i'r Gogledd o lwybr “Church Walks”.
Mae'n dwyn yr arysgrif:
Yma mae’n gorwedd, Ym Mynwent Mihangel, wr oedd a'i annedd dair milltir i’r gogledd.
Mae'r arysgrif ar y garreg bedd (sydd wedi ei gosod yn sefydlog yn y wal) yn awgrymu bod yma ddyn yn gorwedd a oedd yn byw dair milltir i'r Gogledd, h.y. yn y môr. Gallai hyn olygu ar dir sydd bellach o dan y môr, neu fod y garreg wedi cael ei symud. Mae disgrifiad y garreg fedd yn ymddangos yng Nganllaw yr Eglwys yn 1883 pan sonnir am Drychineb y Rheilffordd a’r Ocean Monarch a bod y carreg hon sydd bron yn annarllenadwy ar ochr arall y fynwent a allai olygu ei fod wedi cael ei symud i'w lleoliad presennol. Nodwyd yn y “Colwyn Bay and Abergele Gazette “ ar yr 21ain o Rhagfyr 1895 bod copi newydd o’r garreg wedi cael ei chrybwyll.
Yn rhyfedd nid yw Edward Llwyd yn gwneud unrhyw gyfeiriad at y garreg hon yn ei 'Parochialia o 1696,’ ond mae Dr FJ North yn ei “Sunken Cities” 1957,yn nodi.'Nid oedd gan y garreg wreiddiol unrhyw ddyddiad ond mae ei chymeriadau yn dangos ei bod wedi ei chreu yn rhan gynnar y 17eg ganrif. Yn ôl traddodiad lleol, mae'n gopi o gofeb sydd eto’n hÅ·n, ond nid yw o unrhyw werth fel tystiolaeth gan nad yw yn ei safle gwreiddiol '.
Mae cefnogaeth i'r ddamcaniaeth bod y môr wedi ennill tir dros y blynyddoedd yn enwedig rhwng 1799 a heddiw. Mae'n cael ei gofnodi fod bwthyn ar y lan i'r gogledd o Glandwr, Pensarn lle roedd caeau gwyrdd yn amgylchynu y bwthyn tua 1830, ac mae Thomas Pennant yn sôn iddo weld 'cyrff coed gweddol gyfa ond mor feddal y gellid eu torri â chyllell mor hawdd ag y gellid torri cwyr '.
Unwaith eto, mae canllaw 1883 yn datgan " Mae’r traddodiad bod y môr ar un adeg wedi llethu darn sylweddol o dir (tua’r 8fed ganrif yn ôl pob tebyg) yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth ddaearegol a chan ddiflaniad hen dirnodau". Mae traddodiad yn adrodd fod y môr yn gorchuddio tir o'r enw Morfa Rhiannedd oedd yn ymestyn o Point of Ayr i'r Gogarth a caiff hyn ei gadarnhau gan dystiolaeth ddaearegol.
16 Bedd Llys Onnen
Agorwyd Cartref y Deillion Llys Onnen yn swyddogol ym Mai 1924 i ddarparu llety parhaol a llety gwyliau i’r deillion. Bu i’r pwyllgor rheoli gysylltu âg Eglwys San Mihangel i holi a fyddai posib cael plot pwrpasol ar gyfer claddedigaethau trigolion wedi iddynt farw. Cafwyd deuddeg claddedigaeth rhwng Gorffennaf 1956 a Gorffennaf 1961. Mae’r bedd (rhif 16) wedi ei atgyweirio a’i leoliad wedi ei nodi ar y map. Yn ddiweddarach bu i drigolion cael eu claddu mewn rhes o feddau arwahan, y tu ôl i feddau’r amlosgfa mewn plot tua’r gogledd.
​